[BACKGROUND IMAGE] https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/2241511-mobile.jpg?v=1739974277000 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/2241511-desktop.jpg?v=1739974275000 Photo: Sam Turley (rspb-images.com)

Gall byd natur adfer - os byddwn yn buddsoddi ynddi

Rhoi byd natur wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau

Wrth i Lywodraeth Cymru nodi ei blaenoriaethau a pharatoi ei Chyllideb nesaf, rhaid i fyd natur fod wrth galon pob penderfyniad. Anfonwch neges glir at eich ASau: mae byd natur yn bwysig. Mae blaenoriaethu a buddsoddi mewn adferiad byd natur yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru.

Dewiswch eich cerdyn post. Rhannwch eich cefnogaeth. Cefnogwch natur.

Darllen mwy

Rhaid i’ch Aelodau newydd o’r Senedd wybod pa mor bwysig yw byd natur i chi.

Dychmygwch Cymru ag afonydd glanach a moroedd iachach, lle mae cynnydd yn niferoedd ein rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf, lle mae ffermwyr yn cael eu cefnogi i weithio law yn llaw â natur, a lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu ym mhob cymdogaeth.

Cymru lle mae mwy o Wenoliaid Duon yn plymio ac yn canu dros doeau, mwy o Balod yn dychwelyd i gartrefi arfordirol prysur, ac mae’r Tingoch a Theloriaid y Coed yn ffynnu o dan ganopi ein coedwigoedd glaw Celtaidd.

Mae’r dyfodol yma o fewn cyrraedd - ond dim ond os byddwn yn blaenoriaethu ac yn buddsoddi mewn byd natur.

Mae bywyd gwyllt yn dirywio, mae cynefinoedd dan bwysau ac mae llawer o rywogaethau’n wynebu dyfodol ansicr.
Mae Cymru wedi ymrwymo i wrthdroi dirywiad byd natur erbyn 2030. Bydd y Senedd hon yn hanfodol i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau sydd eu hangen i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

Mae adfer byd natur yn golygu mwy na gwarchod bywyd gwyllt. Fel ein system cynnal bywyd, mae byd natur yn darparu aer a dŵr glân, priddoedd iach i gynhyrchu bwyd, y gallu i wrthsefyll newid hinsawdd, ac mae’n cefnogi ein hiechyd a’n llesiant.
 Yr hyn sydd ei angen nawr yw’r buddsoddiad a’r gefnogaeth i wneud iddo ddigwydd ar y cyflymder a’r raddfa sydd eu hangen ar fyd natur.

Gall byd natur adfer - ond dim ond os byddwn yn blaenoriaethu ac yn buddsoddi ynddi.

Anfon eich cerdyn post

Widget will be shown here

other-language-text English version
other-language-link https://action.rspb.org.uk/page/201089/action/1
step1-name Dyfodol
step1-title Beth hoffech chi i'ch ASau ei ddychmygu ar gyfer dyfodol Cymru?
step1-option1-text ffermio a natur yn ffynnu gyda’i gilydd
step1-option1-image https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/step1-farming.webp?v=1789749866000
step1-option2-text afonydd glân yn fwrlwm o fywyd
step1-option2-image https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/step1-rivers.webp?v=1789750610000
step1-option3-text bywyd gwyllt yn blodeuo ym mhob cymdogaeth
step1-option3-image https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/step1-neighbourhood.webp?v=1789750642000
step1-option4-text ein harfordiroedd a’n moroedd yn llawn bywyd
step1-option4-image https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/step1-seas.webp?v=1789750629000
step1-option5-text coetiroedd yn ffynnu, yn fyw â chân yr adar
step1-option5-image https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/step1-woodlands.webp?v=1789750653000
step1-button Nesaf
step2-name Llun
step2-title Dewiswch pa lun yr hoffech ei ddangos ar eich cerdyn post
step2-postcard-prefix Dychmygwch Gymru...
step2-option1-postcard1 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMCurlew.jpg?v=1790090579000
step2-option1-postcard2 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMtractor+wildflowers.jpg?v=1790090577000
step2-option1-postcard3 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMyellowhammer.jpg?v=1790090575000
step2-option1-postcard4 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMcows.jpg?v=1790090581000
step2-option2-postcard1 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMKingfisher.jpg?v=1790090562000
step2-option2-postcard2 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMWater+vole.jpg?v=1790090564000
step2-option2-postcard3 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMFrog.jpg?v=1790090566000
step2-option2-postcard4 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMDragonfly.jpg?v=1790090567000
step2-option3-postcard1 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMSwifts.jpg?v=1790090569000
step2-option3-postcard2 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMBlossomBee.jpg?v=1790090573000
step2-option3-postcard3 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMRobin.jpg?v=1790090570000
step2-option3-postcard4 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMHedgehog.jpg?v=1790090572000
step2-option4-postcard1 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMpuffins2.jpg?v=1790090555000
step2-option4-postcard2 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMGannet.jpg?v=1790090559000
step2-option4-postcard3 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMbottlenosed+dolphin.jpg?v=1790090561000
step2-option4-postcard4 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMGrey+seal.jpg?v=1790090557000
step2-option5-postcard1 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMRedstart.jpg?v=1790090551000
step2-option5-postcard2 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMWoodland.jpg?v=1790090549000
step2-option5-postcard3 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMPied+flycatcher.jpg?v=1790090552000
step2-option5-postcard4 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/CYMchicks+in+tree.jpg?v=1790090554000
step3-name Manylion
step3-title Adolygwch eich neges ac ychwanegwch eich manylion
step3-description-html

Bydd eich neges yn cael mwy fyth o effaith os byddwch yn ei gwneud yn bersonol. Mae croeso i chi newid y llinell pwnc neu ychwanegu ychydig o eiriau am y lleoedd neu’r bywyd gwyllt sy’n bwysig i chi. Gwiriwch eich manylion, yna cliciwch 'Anfon' pan fyddwch chi'n fodlon â'ch neges.

step3-message-subject-label Llinell pwnc
step3-message-subject Mae’r dyfodol hwn yn bosibl - os byddwn yn buddsoddi mewn byd natur
step3-message-before-html Annwyl (enw’r AS),
step3-message-text-label Testun y neges
step3-message-text-html

Rydw i’n ysgrifennu atoch chi oherwydd bod bywyd gwyllt yn bwysig iawn i mi ac rydw i eisiau gweld dyfodol i Gymru lle mae byd natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Fel fy AS, rydw i’n gofyn i chi helpu i sicrhau bod y Senedd hon yn cyflawni dros fyd natur drwy wneud y canlynol:

• Blaenoriaethu byd natur yn y Gyllideb, gyda mwy o fuddsoddiad tymor hir mewn cadwraeth natur a rheoli tir yn gynaliadwy i roi Cymru ar y trywydd iawn i adfer natur erbyn 2030.

• Rhoi adferiad byd natur wrth galon polisi defnydd tir, gan gynnwys adolygu rheoliadau ffermio a sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn galluogi ffermwyr i adfer byd natur a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

• Gosod targedau bioamrywiaeth uchelgeisiol a sicrhau llywodraethu amgylcheddol cryf i atal difrod a sbarduno gweithredu cadarnhaol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.

• Sicrhau bod gan ardaloedd gwarchodedig adnoddau priodol, eu bod yn cael eu rheoli, eu monitro a’u hehangu, gan gefnogi bywyd gwyllt ffyniannus ledled ein cefn gwlad a’n moroedd.

Byddwch yn llais cryf dros fyd natur yn y Seithfed Senedd a helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ac yn buddsoddi yn ei hadferiad. Mae buddsoddi mewn byd natur yn golygu buddsoddi mewn pobl iachach, cymunedau cryfach, busnesau cydnerth a Chymru well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gobeithio y gallaf ddibynnu arnoch chi i roi byd natur wrth galon y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru.

Cofion cynnes,

step3-message-after-html Llenwch eich manylion isod a byddwn yn eu hychwanegu at ddiwedd eich neges: