[BACKGROUND IMAGE] https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/2243026-mobile.jpg?v=1739894850000 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/2243026-desktop.jpg?v=1739894848000 Photo: Jake Stephen (rspb-images.com)

Ni arhosith natur. Rhaid i'r rhai rydyn ni'n eu hethol weithredu

Rhowch wybod i'ch ymgeiswyr fod yn rhaid iddynt ymrwymo ar frys i warchod ac adfer natur Cymru. 

Mae etholiad y Senedd ar 7 Mai yn un hanfodol i natur.  Mae Cymru wedi ymrwymo i'r targedau rhyngwladol i atal colli bywyd gwyllt a gwarchod 30% o'r tir a'r môr erbyn 2030. Mae hynny'n golygu y bydd y bobl rydyn ni'n dewis eu hethol nawr, yn y pen draw yn penderfynu a yw hyn yn digwydd ai peidio. 

Byddai cyrraedd y targedau hyn yn sicrhau newid sylweddol, oherwydd pan fydd natur yn ffynnu, rydyn ni i gyd yn ffynnu. Byddai'n gwarchod ac yn ehangu'r lleoedd gwyllt gwych yn ein trefi a'n dinasoedd, ein cefn gwlad a'n moroedd.  Byddai'n golygu bod mwy o fywyd gwyllt ar stepen ein drws ac yn y mannau arbennig ledled Cymru, a ddylai fod yn hafan i fyd natur.  Byddwn hefyd yn elwa oherwydd mai natur yw ein system cynnal bywyd: mae'n rhoi aer a dŵr glân i ni, priddoedd iach i gynhyrchu ein bwyd ac yn ein helpu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.  

Yn yr etholiad hwn, mae gan bob un ohonom rôl hanfodol: dywedwch wrth ymgeiswyr na all natur aros. 

Codwch eich llais!

Defnyddiwch ein templed e-bost hwylus i roi gwybod i'ch holl ymgeiswyr fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i warchod ac adfer ein byd naturiol. Ar gyfer ein bywyd gwyllt, ar gyfer cymunedau ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Darllen mwy
Ble bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru, gall eich llais wneud gwahaniaeth.  

Mae'r pŵer i wneud y rhan fwyaf o'r deddfau a'r polisïau sy'n effeithio ar ein hamgylchedd wedi'i ddatganoli, felly gallai'r Llywodraeth nesaf a gaiff ei hethol ar 7 Mai gael effaith fawr ar natur Cymru.  Drwy anfon e-bost at eich ymgeiswyr lleol, gallwch roi gwybod iddynt fod yn rhaid iddynt ymrwymo ar frys i fod yn llais dros natur lle rydych chi'n byw a ledled Cymru. 

Mae hwn yn gyfle.  

Byddai'n drychineb i bob un ohonom os na lwyddir i gyrraedd y targedau cyfreithiol rwymol ar gyfer natur yr ydym wedi addo eu cyrraedd, felly mae'n rhaid i ni wneud i hyn ddigwydd nawr. Y newyddion da yw bod gwyddoniaeth yn dangos y gallwn wrthdroi colli natur. Eisoes, mae pobl anhygoel ledled Cymru yn dangos y gallwn adfer ein byd naturiol mewn ffyrdd sydd nid yn unig yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r hinsawdd, ond sydd hefyd yn gweithio i ni, a'n busnesau.   Mae angen y gefnogaeth wleidyddol arnom nawr i gynyddu’r gwaith hwn, yn gyflym. 

Mae angen i'n byd naturiol adfer cymaint â'n bywyd gwyllt 

Rydym yn dibynnu ar y byd naturiol bob dydd. Mae'n rhoi'r aer glân rydyn ni'n ei anadlu, y dŵr rydyn ni'n ei yfed, a'r priddoedd iach i helpu i dyfu bwyd maethlon. Gall cynefinoedd bywyd gwyllt ein helpu i addasu i effeithiau newid hinsawdd trwy gloi’r carbon yn yr atmosffer a lleihau'r perygl o lifogydd. Gwyddom fod cael mynediad i archwilio lleoedd gwyllt yn golygu pobl a chymunedau iachach. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos pe bai pob un ohonom yn cael mynediad at fan gwyrdd o ansawdd da, y gallai arbed biliynau o bunnoedd y flwyddyn i'r GIG mewn costau triniaethau.

Os bydd digon ohonom yn codi ein llais, gallwn droi addewidion yn weithredoedd. 

Dyna pam rydyn ni'n galw ar yr holl ymgeiswyr a’r pleidiau i ymrwymo i: 

  • Osod targedau uchelgeisiol i adfer natur 
  • Sicrhau y gofelir yn dda am y safleoedd bywyd gwyllt gorau ar y tir ac ar y môr  
  • Gwneud yn siŵr bod cynlluniau a datblygiadau’n helpu natur  
  • Cefnogi ffermio sy'n gyfeillgar i natur i adfer a gofalu am natur

Gyda'n gilydd, gallwn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i’r gwaith o adfer ein bywyd gwyllt a'n mannau gwyllt fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru. 

Gweithredwch. Defnyddiwch ein templed e-bost hwylus i ddweud wrth ymgeiswyr na all natur aros.

 
William o London wedi gweithredu

Ebostiwch eich Ymgeiswyr Nawr

Beth am aros mewn cysylltiad – ar eich telerau chi

Diolch am boeni am fyd natur. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i’w achub. Rydych chi’n rhan bwysig o hyn, dyna pam y bysem wrth ein boddau pe tasech yn optio i mewn fel ein bod yn medru rhoi gwybod i chi am ein gwaith cadwraeth, ymgyrchu, ymchwil a chodi arian sydd yn digwydd.

Os ydych chi’n hapus i’r RSPB a Siop RSPB gadw mewn cysylltiad, plîs gadewch wybod  sut y hoffech chi glywed gennym ni:

Rydw i eisiau i chi gysylltu trwy (plîs ticiwch “Ie” neu “Na” ymhob enghraifft):

Am eich preifatrwydd

Eich dewis chi ydy o. Os hoffech chi newid eich dewisiadau yn nes ymlaen, yr oll sydd angen i chi wneud ydi ein ffonio ar 01767 693680 (mae costau galwadau yn cael ei godi ar gyfradd safonol, Llun – Gwener, 9yb – 5yp). Os ydych yn penderfynu aros mewn cysylltiad, fe wnawn ni eich diweddaru gyda newyddion am aelodaeth, cynnyrch, cynigion a chystadlaethau.

Bydd eich manylion yn cael ei gadw’n ddiogel, a ni fydd yn cael ei rannu gydag unrhyw un arall. Rydym yn dadansoddi gwybodaeth yr ydych chi wedi’i ddarparu, gan gynnwys y ffyrdd yr ydych chi wedi ein helpu, i weld pa ddull o gyfathrebu sydd yn well ganddoch chi. Golyga hyn medrwn arbed ein hadnoddau ar gyfer gwaith cadwraeth a deall ein cefnogwyr yn well. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth i redeg gweithrediadau ein helusen, e.e. os ydych yn rhoi archeb neu gyfraniad, bydd angen eich manylion arnom i’w brosesu. Os hoffech chi wybod mwy am hyn neu i ddeall eich hawliau gwarchod data, plîs edrychwch ar ein polisi preifatrwydd.