[BACKGROUND IMAGE] https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/Wildflower+eaction+mobile.jpg?v=1749119871000 https://aaf1a18515da0e792f78-c27fdabe952dfc357fe25ebf5c8897ee.ssl.cf5.rackcdn.com/13/Wildflower+eaction+desktop.jpg?v=1749119873000 Photo:Ben Andrew (rspb-images.com)

Rhaid i Fil Amgylchedd newydd Cymru gyflawni dros fyd natur 

Fe allai’r ddeddfwriaeth newydd drawsnewid sefyllfa byd natur yng Nghymru – ond mae angen eich help chi arnom ni! Mae gwaith brys i’w wneud i sicrhau ei bod yn arwain at y newid sydd ei angen ar fyd natur. 

Fe allai’r Bil baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol lle mae byd natur yn gallu ffynnu ar hyd a lled Cymru. Ond i sicrhau hyn, rydyn ni’n galw am wneud rhannau ohono’n gryfach ac yn gliriach.  Codwch eich llais nawr! Defnyddiwch ein templed ebost rhwydd i roi gwybod i’ch Aelod o’r Senedd pa mor bwysig yw’r Bil hwn ac i ofyn iddynt alw am y newidiadau hollbwysig a fydd yn elwa bywyd gwyllt Cymru.

Darllen mwy

Mae Cymru’n wynebu argyfwng byd natur.   

Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu o Gymru. Dim ond cyfran fach iawn o’n hardaloedd gwarchodedig sydd mewn cyflwr da, ac mae gan lai na hanner ein hafonydd statws ecolegol da.                                

Fe allai Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), gafodd ei gyflwyno i Senedd Cymru ar 2 Mehefin, fod yn gyfle hanfodol i wrthdroi’r tueddiadau hyn. 

Fe allai’r Bil roi Cymru ar y trywydd iawn tuag at amgylchedd iachach drwy gyflwyno corff annibynnol i wneud yn siŵr bod deddfau amgylcheddol yn cael eu dilyn yn effeithiol, a drwy osod targedau uchelgeisiol ar gyfer adfer byd natur.  

I wireddu potensial y Bil, rydyn ni’n galw am wneud rhannau ohono’n gryfach ac yn gliriach. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Cryfhau’r gofyniad y dylai’r holl waith llunio polisïau beidio â niweidio’r amgylchedd, ac yn hytrach ei wella, gyda dyletswydd i ddilyn egwyddorion amgylcheddol craidd yn yr holl waith llunio polisïau yng Nghymru. 
  • Sicrhau bod corff gwarchod amgylcheddol newydd Cymru yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a bod hynny’n amlwg, a nodi’n glir sut mae modd i bobl herio methiannau cyrff cyhoeddus i gydymffurfio â deddfau amgylcheddol. 
  • Gwneud yn siŵr bod targedau bioamrywiaeth yn cael eu cyflwyno’n gyflym er mwyn gallu gosod nodau hirdymor ac interim a fydd yn gorfodi Llywodraethau olynol Cymru i weithredu. Dylai’r Bil gynnwys gofyniad penodol am darged i wrthdroi’r dirywiad mewn helaethrwydd rhywogaethau dros y deg mlynedd nesaf i wneud hi’n glir bod angen gweithredu ar frys dros fyd natur.  

Mae dros dri chwarter y bobl yng Nghymru yn credu y dylai llywodraethau, nawr ac yn y dyfodol, gymryd rhagor o gamau i fynd i’r afael â cholli byd natur*. Os bydd digon ohonom ni’n siarad, gallwn ni roi gwybod i’r Senedd bod amser yn brin i fyd natur. Gweithredwch da chi. Defnyddiwch ein templed ebost rhwydd i roi gwybod i’ch Aelod o’r Senedd pa newidiadau hoffech chi eu gweld yn y Bil, a gofyn iddynt alw ar y Dirprwy Brif Weinidog/Gweinidog y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i sicrhau bod yr elfennau pwysig hyn yn cael eu hystyried pan fydd Deddf yr Amgylchedd yn cael ei phasio i'r gyfraith.

*Cynhaliwyd yr arolwg 3 - 23 Mawrth 2025 gan Beaufort Research Limited. Cafodd cyfanswm o 1,000 o arolygon eu cynnal ar-lein ac mae’r canlyniadau’n cynrychioli’r boblogaeth oedolion (dros 16 oed) yng Nghymru. 

water vole
 
William o London wedi gweithredu

Ebostiwch eich AS nawr

Beth am aros mewn cysylltiad – ar eich telerau chi

Diolch am boeni am fyd natur. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i’w achub. Rydych chi’n rhan bwysig o hyn, dyna pam y bysem wrth ein boddau pe tasech yn optio i mewn fel ein bod yn medru rhoi gwybod i chi am ein gwaith cadwraeth, ymgyrchu, ymchwil a chodi arian sydd yn digwydd.

Os ydych chi’n hapus i’r RSPB a Siop RSPB gadw mewn cysylltiad, plîs gadewch wybod sut y hoffech chi glywed gennym ni:

Rydw i eisiau i chi gysylltu trwy (plîs ticiwch “Ie” neu “Na” ymhob enghraifft):

Ynglŷn â'ch preifatrwydd

Eich dewis chi ydy o. Os hoffech chi newid eich dewisiadau yn nes ymlaen, yr oll sydd angen i chi wneud ydi ein ffonio ar 01767 693680 (mae costau galwadau yn cael ei godi ar gyfradd safonol, Llun – Gwener, 9yb – 5yp). Os ydych yn penderfynu aros mewn cysylltiad, fe wnawn ni eich diweddaru gyda newyddion am aelodaeth, cynnyrch, cynigion a chystadlaethau.

Bydd eich manylion yn cael ei gadw’n ddiogel, a ni fydd yn cael ei rannu gydag unrhyw un arall. Rydym yn dadansoddi gwybodaeth yr ydych chi wedi’i ddarparu, gan gynnwys y ffyrdd yr ydych chi wedi ein helpu, i weld pa ddull o gyfathrebu sydd yn well ganddoch chi. Golyga hyn medrwn arbed ein hadnoddau ar gyfer gwaith cadwraeth a deall ein cefnogwyr yn well. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth i redeg gweithrediadau ein helusen, ee os ydych yn rhoi archeb neu gyfraniad, bydd angen eich manylion arnom i’w brosesu. Os hoffech chi wybod mwy am hyn neu i ddeall eich hawliau gwarchod data, plîs edrychwch ar ein polisi preifatrwydd.