Bob gwanwyn, daw ein hynysoedd a’n clogwyni yn fyw gyda synau ac arogleuon cannoedd o filoedd o adar môr sy’n dychwelyd. Rydyn ni am sicrhau nad yw’r lleoedd arbennig hyn yn tawelu.
O ryfeddod Adar Drycin Manaw i’r Huganod yn codi, mae ynysoedd Cymru yn gartref i boblogaethau o adar môr sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.
Mae adar môr yn ddangosydd allweddol o iechyd ecosystemau morol. Serch hynny, yn fyd-eang mae eu poblogaethau’n gostwng yn gyflymach nag unrhyw grŵp arall o adar, ac mae’n drist bod y bygythiad i adar môr yn cynyddu.
Mae angen i adar môr gael:
• Lleoedd diogel i fridio a magu eu cywion.
• Digonedd o gyflenwadau o fwyd i'w bwydo eu hunain a'u cywion.
• Goroesi'n ddigon hir i fridio'n llwyddiannus – mae nifer o adar môr yn rhywogaethau hirhoedlog sy'n cymryd amser i aeddfedu a dim ond yn dodwy un neu ddau wy y flwyddyn.
Cefnogi Strategaeth Cadwraeth Adar Môr Cymru
Rydyn ni’n croesawu Strategaeth Cadwraeth Adar Môr Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau datblygiad a gweithrediad Cynllun Gweithredu effeithiol ag adnoddau da sy’n cynnwys mesurau ar gyfer y canlynol:
1. Gwarchod yr ardaloedd pwysicaf i adar môr ar dir a môr.
2. Gwarchod cyflenwadau o bysgod ysglyfaethus y mae adar y môr yn dibynnu arnynt, a sicrhau bod pysgodfeydd yn gynaliadwy - gan sicrhau canlyniadau gwell i adar môr a phobl.
3. Gwarchod ynysoedd adar môr Cymru rhag ysglyfaethwyr ymledol, fel llygod mawr, a rhoi cynlluniau ar waith i glirio ysglyfaethwyr ymledol o ynysoedd sydd wedi’u heffeithio.
4. Sicrhau bod cynllunio morol a datblygiadau adnewyddadwy ar y môr yn sicrhau canlyniadau positif a chyllid uniongyrchol tuag at weithredu dros hinsawdd a natur.
Codi llais dros ein hadar môr
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Cadwraeth Adar Môr Cymru ar agor tan 14eg Chwefror. Helpwch ni drwy bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd Strategaeth yn gweithredu’r mesurau hollbwysig sydd eu hangen i warchod poblogaethau o adar môr Cymru.