Darllenwch y ddeiseb llawn
Er mwyn tyfu bwyd, mae arnom angen natur. Rhaid i Lywodraeth y DU gynyddu eu buddsoddiad mewn ffermio er lles natur i £5.9bn nawr.
Mae natur yn rhoi’r union bethau y mae’r holl gynhyrchu bwyd yn dibynnu arnynt, ac yn ein helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu tyfu’r bwyd sydd arnom ei angen yn y dyfodol, rhaid i ni werthfawrogi’r rhan mae natur yn ei chwarae a’i roi wrth galon y ffordd rydyn ni’n ffermio. Os wnawn ni hynny, gan fod 70% o’r DU yn cael ei ffermio, gallwn hefyd weld y bywyd gwyllt rydyn ni’n rhannu ein tiroedd â nhw yn adfywio.
Ni all Llywodraeth y DU anwybyddu hyn – rhaid i chi glustnodi cyllid yn awr ar gyfer dulliau ffermio er lles natur ar draws pedair gwlad y DU. Mae ymchwil annibynnol newydd yn dweud bod cynyddu buddsoddiad i £5.9bn y flwyddyn ar draws y DU yn hanfodol i gyrraedd targedau byd natur a hinsawdd sy’n gyfreithiol rwymol, ac i wella cadernid diwydiant bwyd a ffermio’r DU.
Rhaid i Lywodraeth y DU flaenoriaethu buddsoddi mewn dulliau ffermio er lles natur.
Rydyn ni eisiau ffermio er lles natur. Rydyn ni ei angen.
Gweithredwch nawr!
Beth yw ffermio er lles natur?
Mae ffermio sy’n gyfeillgar i natur yn helpu i gadw ein priddoedd a chnydau’n iach a dŵr yn lân, gan wneud ffermio fel busnes sy’n fwy gwydn a proffidiol. Mae’n hybu bywyd gwyllt, gall leihau’r angen am blaladdwyr ac yn cynyddu peillwyr fel gwenyn y mae llawer o'n bwyd yn dibynnu arno. A gall leihau allyriadau carbon a helpu delio ag effeithiau tywydd eithafol a achosir gan newid yn yr hinsawdd, fel llifogydd a sychder.
Mae llawer o ffermwyr a chrofftwyr anhygoel eisoes yn dangos bod modd o ffermio’n gynhyrchiol a phroffidiol gan hefyd wneud le i natur. Rydyn ni’n gweithio gyda rhai ohonyn nhw ar draws tirweddau amrywiol fel Hope Farm yn Swydd Gaergrawnt, ffermydd Ynysoedd Gorllewin yr Alban, Bryniau Antrim yng ngogledd Iwerddon a Llyn Efyrnwy ar ucheldiroedd Cymru.
Dysgwch fwy gan Georgina Bray, Rheolwr Ffarm Hope Farm yr RSPB.
Beth am aros mewn cysylltiad – ar eich telerau chi
Diolch am boeni am fyd natur. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i’w achub. Rydych chi’n rhan bwysig o hyn, dyna pam y bysem wrth ein boddau pe tasech yn optio i mewn fel ein bod yn medru rhoi gwybod i chi am ein gwaith cadwraeth, ymgyrchu, ymchwil a chodi arian sydd yn digwydd.
Os ydych chi’n hapus i’r RSPB a Siop RSPB gadw mewn cysylltiad, plîs gadewch wybod sut y hoffech chi glywed gennym ni:
Rydw i eisiau i chi gysylltu trwy (plîs ticiwch “Ie” neu “Na” ymhob enghraifft):
Eich dewis chi ydy o. Os hoffech chi newid eich dewisiadau yn nes ymlaen, yr oll sydd angen i chi wneud ydi ein ffonio ar 01767 693680 (mae costau galwadau yn cael ei godi ar gyfradd safonol, Llun – Gwener, 9yb – 5yp). Os ydych yn penderfynu aros mewn cysylltiad, fe wnawn ni eich diweddaru gyda newyddion am aelodaeth, cynnyrch, cynigion a chystadlaethau.
Bydd eich manylion yn cael ei gadw’n ddiogel, a ni fydd yn cael ei rannu gydag unrhyw un arall. Rydym yn dadansoddi gwybodaeth yr ydych chi wedi’i ddarparu, gan gynnwys y ffyrdd yr ydych chi wedi ein helpu, i weld pa ddull o gyfathrebu sydd yn well ganddoch chi. Golyga hyn medrwn arbed ein hadnoddau ar gyfer gwaith cadwraeth a deall ein cefnogwyr yn well. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth i redeg gweithrediadau ein helusen, e.e. os ydych yn rhoi archeb neu gyfraniad, bydd angen eich manylion arnom i’w brosesu. Os hoffech chi wybod mwy am hyn neu i ddeall eich hawliau gwarchod data, plîs edrychwch ar ein polisi preifatrwydd.